Cardiff Animation Festival yn cyhoeddi rhaglen lawn
Mae Cardiff Animation Festival (CAF) wedi cyhoeddi amserlen eu rhaglen lawn ac yn gallu cadarnhau dangosiad o ffilm ddiweddaraf Wes Anderson, Isle of Dogs, a chyfle i glywed gan aelodau o’r criw mewn sesiwn gwestiynau arbennig.
Gyda’r Tocynau Cynnar i gyd wedi’u gwerthu, mae Tocynnau Penwythnos yn dal ar gael a thocynnau i ddigwyddiadau unigol ar werth o heddiw ymlaen. Gellir gweld yr amserlen lawn yn cardiffanimation.com.
Mae tocynnau ar gael i’r Diwrnod Diwydiant, fydd o ddiddordeb i weithwyr yn y maes, o animeiddwyr profiadol, i unigolion sydd newydd ddechrau’r daith a rhai sy’n chwilio am eu cyfle cyntaf. Ymhlith y sesiynau bydd Paned gyda’r Comisiynydd Plant – cyfle unigryw i ddysgu sut i gyflwyno syniad i sianeli teledu a marchnata cynnyrch ffurf-fer, ac i fachu lle i drafod wyneb yn wyneb â’r comisiynwyr a nifer o arbenigwyr eraill. Yn agor y Diwrnod Diwydiant bydd darlith gan Bob Ayres, pennaeth TrueTube gafodd eu henwebu am saith Gwobr BAFTA Plant yn ddiweddar – sy’n record. Ymhlith y sesiynau eraill bydd trafodaeth banel ar Drwyddedu a Dosbarthu a sgyrsiau gan Alison Taylor (Aardman Rights) a Helen Howells (HoHo Entertainment). Bydd digon o gyfle hefyd i bawb rwydweithio a thrafod digwyddiadau’r diwrnod.
Ar nos Wener bydd CAF yn dathlu’r ffilm stop-motion newydd o Gymru Chuck Steel: Night Of The Trampires. Bydd y cyfarwyddwr Mike Mort, y Cyfarwyddwr Celf Bridget Phelan, y Cynhyrchydd Gweithredol Randhir Singh a’r animeiddwraig Laura Tofarides yn rhoi cip tu ôl i’r llenni i’r gynulleidfa’n fydd hefyd yn cael cyfle i weld clip egsgliwsif o’r ffilm. Bydd arddangosfa o setiau, props a phypedau rhagorol y ffilm hefyd i’w gweld dros bedwar diwrnod yr ŵyl.
Cynhelir dosbarth meistr gan Mark Mullery o Cartoon Saloon fydd yn codi’r llen ar gynhyrchiad The Breadwinner – ffilm hyfryd am ferch ifanc yn byw dan law y Taliban a enwebwyd eleni am Oscar. Caiff y ffilm ei dangos hefyd cyn y dyddiad rhyddhau swyddogol.
Cynhyrchiad rhyng-Ewropeaidd diweddar yw Captain Morten and the Spider Queen sy’n cyfuno talentau stop-motion Telegael o Iwerddon, stiwdio Nukufilm o Estonia a Grid VFX o Wlad Belg. Nid yw’r ffilm wedi ei rhyddhau eto ond bydd y Cyd-gyfarwyddwr Henry Nicholson, y Pennaeth Pypedau Emily Nicholson a’r Cynhyrchydd Robin Lyons yn ymuno â ni i drafod sut y llywiwyd project o’r fath ar draws cyfandir cyfan er mwyn adrodd hanes twymgalon y Morten dychmygus.
Y Beirniaid gyda’r dasg fawr o ddewis yr enillwyr o’r rhaglen o 99 ffilm fer a ddewiswyd yw’r gyfarwyddwraig annibynol Rhiannon Evans (Heartstrings, Fulfilament), cynhyrchydd Manchester Animation Festival, Jen Hall, yr awdur a golygydd cylchgrawn animeiddio Skwigly, Ben Mitchell, cyfarwyddwr animeiddio Aardman Will Becher, a’r gynhyrchwraig annibynnol a Chyfarwyddwr Animation UK sydd newydd ei phenodi’n Gyfarwyddwr y British Animation Awards, Helen Brunsdon.
Bydd yr artist rhyngwladol-enwog Jac Saorsa yn arwain gweithdy Darlunio Byw ar gyfer Animeiddio. Mae’n enwog am ei dealltwriaeth dreiddgar o’r corff a nod y gweithdy yw meithrin sgiliau darlunio sy’n greiddiol i animeiddio. Addas i animeiddwyr, myfyrwyr, artistiaid amatur ac unrhyw un sydd am ddatblygu eu crefft ddarlunio.
Noddir Cardiff Animation Festival 2018 gan Animortal Studio, Cloth Cat Animation, Prifysgol De Cymru, Beryl Productions, Jammy Custard Animation, y British Council a Desg Ewrop Greadigol y Du – Cymru a’r British Council. Ariennir yr ŵyl gan y BFI a Ffilm Cymru Wales ac fe’i chynhelir ar y cyd â Chapter, BAFTA Cymru a Curzon. Mae CAF yn rhan o ‘Anim18: A Celebration of British Animation’ a gynhelir ledled y DU rhwng Ebrill a Thachwedd 2018. Arweinir Anim18 gan Ganolfan Ffilm Cymru, Chapter (Caerdydd) ar y cyd ag aelodau o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI, a gefnogir gan y BFI gyda nawdd y Loteri Genedlaethol i ddod ag ystod amrywiol o sinema i gynulleidfaoedd ledled y DU. I weld gweithgareddau a digwyddiadau Anim18 dros y DU yn 2018, ewch i www.Anim18.co.uk.
Cynhelir Cardiff Animation Festival 2018 rhwng dydd Iau 19 a dydd Sul 22 Ebrill yn Chapter, canolfan gelfyddydau annibynnol a sinema yng nghalon Caerdydd, a lleoliadau eraill yn y ddinas. Mae tocynnau unigol, penwythnos a diwrnod diwydiant yn awr ar werth o cardiffanimation.com. Dilynwch Cardiff Animation Festival ar Twitter am y manylion diweddaraf.