top of page

CAF AR DAITH: GWAITH A WNAED YNG NGHYMRU

Yn 2025, bydd tîm Gŵyl Animeiddio Caerdydd (CAF) yn teithio ar draws Cymru gyda rhaglen deithiol newydd sbon sy’n cynnwys ffilmiau byr wedi’u hanimeiddio a wnaed yng Nghymru.

 

Mae’r rhaglen yn cyflwyno 9 ffilm ffres gan wneuthurwyr ffilm sy’n Gymry neu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ac yn rhoi’r cyfle i brofi’r gorau oll o’n hanimeiddiadau cartref!



O ffilmiau myfyrwyr disglair i straeon unigryw am gariad ac ymladd yn erbyn eich cythreuliaid mewnol, mae'r rhaglen yn helpu i ddathlu gwaith gwneuthurwyr ffilm lleol, yn ogystal â'ch ysbrydoli gan y straeon sydd gan Gymru i'w hadrodd.

 

Dilynir y dangosiad gan sesiwn Holi ac Ateb wedi'i recordio gyda dau o'r gwneuthurwyr ffilm o'r rhaglen, Nia Alavezos (Teithiwr) ac enillydd Gwobr Cynulleidfa CAF24, Lleucu Non (Cyffur i ladd poen) - a bydd cyfle i gyfrannu at animeiddiad cydweithredol!




Ymunwch â ni yn y lleoliadau canlynol ar y dyddiadau a nodir:

 

 

Dydd Sadwrn 18 Ionawr 2025

2pm | Y Muni, Pontypridd

 

Dydd Gwener 24 Ionawr 2025

7pm | Y Met, Abertyleri

 

Dydd Iau 30 Ionawr 2025

7pm | Canolfan Celfyddydau Pontardawe

 

Dydd Sadwrn 1 Chwefror 2025

7pm | Neuadd y Dref, Maesteg

 

Dydd Iau 6 Chwefror 2025

7pm | Yr Egin, Caerfyrddin

 

Dydd Iau 13 Chwefror 2025

7pm | Pontio, Bangor

 

Dydd Sadwrn 1 Mawrth 2025

Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd

 

Dydd Sadwrn 10 Mai 2025

2pm | Memo Trecelyn



Gallwch weld rhaglen ffilmiau Ar Daith lawn CAF ac archebu tocynnau ar gyfer pob lleoliad yma:









Comments


Featured Posts
Recent Posts
Archive
Search By Tags
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square

Sign up to our mailing list:

CARDIFF ANIMATION FESTIVAL:
  • EMAIL
  • Instagram
  • Facebook
  • Discord
  • TikTok
CARDIFF ANIMATION NIGHTS:
  • EMAIL
  • Facebook
  • Instagram
SUPPORT US VIA PATREON:
Patreon.png

© 2O24 by CARDIFF ANIMATION FESTIVAL

BAFTA Festival Stamp - Positive.png
BAFTA23_Qualifyingfeststamp_neg_white.png
bottom of page