DANGOSIAD O FILM FROM SCRATCH
Ym mis Rhagfyr eleni, gallwch weld cydweithrediad gwych mewn ffilm animeiddiedig Gymreig - am y tro cyntaf ar y sgrin fawr!
Mae FILM FROM SCRATCH yn ffilm fer wedi’i hanimeiddio a gynhyrchwyd gan Gritty Realism Productions, sy’n cyfuno clipiau sinema amatur ac animeiddiadau creu a chrafu i amlygu casgliad a gwaith cynhwysfawr Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.
Crëwyd yr animeiddiad ar gyfer y ffilm gan gyfranogwyr y gweithdai o amrywiaeth o gefndiroedd a meysydd, yn amrywio o bobl ifanc yng Nglan-yr-afon, Caerdydd a Senghenydd i israddedigion Animeiddio o Brifysgol De Cymru. Ymatebodd pob un ohonynt i’r ffilmiau archif yn eu ffyrdd unigol, gan grafu lluniadau’n uniongyrchol i mewn i ffilm seliwloid 35mm, techneg a ysbrydolwyd gan waith arloesol y gwneuthurwr ffilmiau Len Lye.
Thema'r ffilm yw 'Cymru a Dŵr' ac mae'n dilyn ymlaen o ffilm Gritty Realism HAVING A BALL IN SWANSEA - ffilm sy'n dathlu diwrnod a noson a dreuliwyd yn y ddinas, wedi'i chreu trwy grafu a thynnu llun yn syth ar ffilm 35mm mewn canolfan siopa yn Abertawe.
Gweithdy animeiddiad wedi'i grafu fel rhan o FILM FROM SCRATCH
“Hyd y gwn i, nid yw animeddiad wedi’i grafu ar ffilm ac archif ffilm erioed wedi’u cyfuno â’i gilydd fel hyn o’r blaen. Mae’r ffilm yn datgelu hanes ffilm yng Nghymru mewn ffordd newydd, gan gyfuno delweddau a cherddoriaeth mewn fformat deniadol.”
Gerald Conn, Gritty Realism Productions
(O’r chwith i’r dde) 'PIN AND TUMBLER' Dir. Patrick Connelly, '4:3' Dir. Ross Hogg,
'SOMETHING MORE' Dir. Mary Martins.
I gyd-fynd â’r ffilm crafu gydweithredol, mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd wedi llunio rhaglen o ffilmiau byr wedi’u hanimeiddio sy’n defnyddio’r un dechneg crafu. O fydoedd lliwgar haniaethol i raglenni dogfen llawn gwybodaeth, mae'r rhaglen yn dangos sut mae gwneuthurwyr ffilm yn ymgorffori'r dechneg hon i greu straeon hardd ac animeiddiadau.
Ymunwch â ni yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter ar ddydd Sul, y 15fed o Ragfyr am 4pm i weld y rhaglen o ffilmiau a thrafodaeth Holi ac Ateb gyda Gritty Realism.
Cefnogwyd y prosie
Komentáre